"Mae hwn yn ddadeni yn Sir Benfro. O na fyddai’r dynion a ddiswyddwyd o Ddociau Penfro yn y dyddiau tywyll a digalon yma heddiw i weld hyn yn digwydd."

Desmond Donnelly, AS Sir Benfro, yn torri’r tir ar safle Purfa newydd Penfro yn 1963

Hanes Purfa Penfro

 

Bu Purfa Penfro’n troi olew crai yn gynnyrch ers dechrau’r 1960au. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1963 a dechreuodd y cynhyrchu yn 1964 pryd yr agorwyd y burfa yn swyddogol gan EM y Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines.

 

Adeiladwyd y burfa wreiddiol ar gost o £30 miliwn er mwyn gallu cynhyrchu 100,000 casgen y dydd. Gwnaed newidiadau pwysig ers hynny, gan wneud Purfa Penfro Valero yn un o’r purfeydd mwyaf cymhleth yn Ewrop. Wedi’i lleoli ger ffin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar lan ddeheuol Dyfrffordd y Ddau Gleddau, mae’r burfa’n ymestyn dros 550 erw ar safle 1,275 erw sydd wedi’i dirweddu er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar harddwch naturiol y morlin a’r cefn gwlad cyfagos ynghyd â gwella bioamrywiaeth leol.

 

Heddiw, cynhyrchir cyfanswm o 270,000 casgen y dydd a dosberthir allforion o’r burfa ar draws y DU ac i bedwar ban byd. Mae’r burfa’n cynhyrchu tua 3.6 miliwn galwyn o betrol a 2.2 miliwn galwyn o ddiesel y dydd, yn ogystal â chreu 16 o gynhyrchion gwahanol eraill, gan wneud Purfa Penfro yn un o’r gweithgynhyrchwyr tanwydd mwyaf yng Ngogledd-orllewin Ewrop.

 

Gan fod mwy na 1,400 o swyddi’n cael eu cefnogi’n uniongyrchol gan Valero, mae Purfa Penfro’n un o’r cyflogwyr mwyaf yng Ngorllewin Cymru, ac yn rhan ganolog hefyd o’r sector ynni yn Sir Benfro fel aelod o Barth Menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Mae’r burfa’n cyfrannu mwy na £75 miliwn y flwyddyn, neu oddeutu hynny, at yr economi leol, sy’n golygu bod Valero yn bwysicach nag erioed i economi Gorllewin Cymru.

 

Er mwyn i Burfa Penfro fod yn gystadleuol am yr hanner canrif nesaf, ac er mwyn sicrhau ffyniant ein gweithlu, ein cymunedau a’n heconomi leol, nawr yw’r amser i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

 

Llinell Amser